Mae GuideStar UK yn elusen annibynnol a sefydlwyd yn 2003 i greu, am y tro cyntaf erioed, un ffynhonnell hwylus a chyfleus o wybodaeth gynhwysfawr am bob elusen a mudiad gwirfoddol yn y DU.
Ein nod yw sefydlu www.guidestar.org.uk fel y lle cyntaf y bydd rhywun sydd eisiau gwybodaeth am elusen yn troi ato. Mae'r wefan yn rhoi gofod uchel ei broffil, rhad ac am ddim, nid dim ond i elusennau sefydledig ond hefyd i'r llu o fudiadau arbenigol a lleol llai nad oes gwefannau penodol ganddynt ar hyn o bryd. Bydd yn hybu dealltwriaeth y cyhoedd o'r gwaith y mae elusennau yn ei wneud a sut y cânt eu rheoli. Ac fe ddaw hefyd yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth ystadegol ac ariannol i ddyfarnwyr grantiau, ymchwilwyr a llunwyr polisïau cyhoeddus.
Ni chodir unrhyw dâl am fod ar ein cronfa ddata, a bydd defnyddio'r wefan hefyd yn parhau'n rhad ac am ddim.
Ar hyn o bryd, mae ein gwefan yn cynnwys gwybodaeth am 169,000 o'r prif elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Yn y dyfodol byddwn yn cynnwys elusennau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal â mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol anffurfiol. Daw'r wybodaeth sylfaenol am bob elusen o gofnodion y Comisiwn Elusennau - ac fe gaiff ei diweddaru a'i chynnal wedi hynny gan yr elusennau eu hunain, gydag offer golygu ar-lein a ddarperir gennym ni.
Fe'n cefnogir gan Drysorlys EM, y Swyddfa Gartref, y Comisiwn Elusennau ac ymddiriedolaethau dyfarnu grantiau yn y DU ac UDA a chan roddion preifat.